Mae Bo yn ei harddegau ac yn ffoi o Laos yn y gobaith o gael gyrfa ym maes ffotonewyddiaduraeth, ond daw tro ar fyd wedi iddi gwrdd â Satu, plentyn amddifad Bwdhaidd sydd â'r union stori mae hi wedi bod yn chwilio amdani. Gyda’i gilydd, maent yn croesi’r dirwedd drofannol odidog ar feic modur, gan ddod o hyd i atebion — a chanfod mwy amdanyn nhw eu hunain — ar hyd y ffordd.
Dyma ffilm gyntaf y crëwr ffilmiau o Gymru, Joshua Trigg, ac mae’r gwaith ffilmio, a wnaethpwyd ar leoliad ar ffilm 16mm, yn syfrdanol.
Mi fydd recordiad 20 munud o sesiwn holi rhwng y cyfarwyddwr Joshua Trigg ac Ash Kriengsak yn dilyn y ffilm (dim digwyddiad byw).
Ffilm iaith Lao gydag isdeitlau Saesneg.
Mae'r drysau'n agor a bydd yr hysbysebion yn cychwyn 20 munud cyn amser y sgrinio. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri mewn da bryd (ffactor mewn traffig / parcio) – ni allwn warantu mynediad hwyr i hwyrddyfodiaid. Bydd prisiau tocynnau yn cynyddu £1.50 y tocyn ar ddiwrnod y dangosiad (yn amodol ar argaeledd). Mae prisiau tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.
19:15 - Dydd Gwener, 25 Ebrill Tocynnau
19:15 - Dydd Llun, 28 Ebrill Tocynnau
19:15 - Dydd Iau, 1 Mai Tocynnau