galeri

Poster Sbarc

Sbarc yw darpariaeth ieuenctid Galeri ar gyfer y celfyddydau perfformio. Dros y blynyddoedd, ‘da ni wedi cynhyrchu degau o sioeau, miloedd o sesiynau creadigol ac wedi gosod y sylfeini i rai o’r actorion, cerddorion ac ysgrifennwyr a chyfansoddwyr mwyaf talentog o’r ardal leol.

Mae Sbarc yn cynnig sesiynau drama wythnosol i blant trwy gydol 2025. Mae’r sesiynau hwyliog a chyffrous yma’n gyfle gwych i blant feithrin hyder, datblygu sgiliau gweithio mewn tîm ac ehangu eu galluoedd mewn actio a pherfformio. Bob blwyddyn, ‘da ni’n cynhyrchu dwy sioe lawn yn y theatr, gan ddathlu’r holl waith caled o’r sesiynau.

Mae’r dosbarthiadau yma’n llawn ar hyn o bryd, ond mae croeso i chi ymuno â’r rhestr aros

Da ni wastad yn awyddus i glywed gan unigolion creadigol sydd â phrofiad neu sydd eisiau datblygu eu sgiliau wrth arwain gweithdai a chreu gwaith creadigol gyda phlant a phobl ifanc. Am ragor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb, cysylltwch â: lowri.cet@galericaernarfon.com

Cefnogir y prosiect gan y Gronfa Creu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Plentyn yn gorfadd ar y llawr
Plentyn yn canu ac yn rhoi ei ddwylo i fynu yn yr awyr
Plant yn edrych ar ei gilydd

Dyma luniau o gynhyrchiad 2024 Sbarc cynradd o Y Goedwig Hud gan Mared Llywelyn a chaneuon gan Gwilym Bowen Rhys.

Plant yn perfformio Y Goedwig Hud gan Mared Llywelyn
Bechgyn yn perfformio darn o stori Y Goedwig Hud gan Mared Llywelyn
Plant yn dawnsio yn y stori Y Goedwig Hud gan Mared Llywelyn

A dyma luniau o gynhyrchiad 2024 Sbarc uwchradd o Grîs.

Merch yn perfformio darn o stori Gris
Plant wedi gwisgo i fynu fel aelodau o band mewn stori Gris
Plant yn dawnsio ar lwyfan wrth perfformio stori Gris