galeri


Yr Archarwyr a'r Ruddem Ryfeddol

image

Clwb Drama Sbarc yn cyflwyno:Yr Archarwyr a’r Ruddem Ryfeddol!

‘Mae ‘na dau dîm yn ein dinas prysur ni, yr Archarwyr a’r Dihirod.’

Mae’r Archarwyr yn bôrd. Mae pob dihiryn ar ei wyliau ac does dim achub iddyn nhw ei wneud… heblaw mae’r criw tawedog, y Maffia Bach, wedi llithro heibio o dan eu trwynau a chreu hafoc llwyr yn yr amgueddfa!

Mae “Y Bos” wedi cynllwynio cynllun craff i ddwyn y Ruddem Ryfeddol – y ruddem fwyaf i’w darganfod ar y Ddaear erioed – a’i gwerthu hi am lot, lot, lot o bres.

Caiff Y Bos a’r Maffia Bach get awê efo’r lladrad? Neu fydd yr Archarwyr ddigon siarp i’w dal nhw?

Cefnogir gan gronfa Creu – Cyngor Celfyddydau Cymru.

19:00 - Dydd Llun, 30 Mehefin Tocynnau